Rhestr Paramedrau

Isod rhestrwyd holl baramedrau mae'r ffwythiant create_network yn cymryd, ynghyd â disgrifiadau o'r gwerthoedd a chymerwyd. Os ddefnyddir ffeil paramedrau, yna dyma ddadleuon a gwerthoedd sydd angen yn y ffeil .yml.

arrival_distributions

Angenrheidiol

Mae'n disgrifio'r dosraniadau rhwng-dyfodiad ar gyfer pob nod a pob dosbarth cwsmer. Geiriadur yw hwn gyda dosbarthiadau cwsmer fel allweddau, a rhestrau yn disgrifio dosraniadau rhwng-dyfodiad pob nod fel gwerthoedd. Os ond un dosbarth cwsmer sydd angen, mae'n ddigonol rhoi rhestr dosraniadau rhwng-dyfodiad yn unig. Am fwy o wybodaeth ar fewnbynnu dosraniadau, gwelwch Sut i Osod Dosraniadau Dyfodi a Gwasanaeth.

Dangosir esiampl:

arrival_distributions={'Class 0': [ciw.dists.Exponential(2.4),
                                   ciw.dists.Uniform(0.3, 0.5)],
                       'Class 1': [ciw.dists.Exponential(3.0),
                                   ciw.dists.Deterministic(0.8)]}

Esiampl lle mae ond un dosbarth cwsmer:

arrival_distributions=[ciw.dists.Exponential(2.4),
                       ciw.dists.Exponential(2.0)]

batching_distributions

Opsiynol

Mae hwn yn disgrifio dosraniadau maint y swp-dyfodiadau ar gyfer pob nod a dosbarth cwsmer. Geiriadur yw hwn gyda dosbarthiadau cwsmer fel allweddau, a rhestrau yn disgrifio dosraniadau swp-dyfodiad pob nod fel gwerthoedd. Os ond un dosbarth cwsmer sydd angen, mae'n ddigonol rhoi rhestr dosraniadau swp-dyfodiad yn unig. Am fwy o wybodaeth ar swp-dyfodiadau, gwelwch Sut i Osod Swp-Dyfodiadau.

Dangosir esiampl:

batching_distributions={'Class 0': [ciw.dists.Deterministic(1),
                                    ciw.dists.Sequential([1, 1, 2])],
                        'Class 1': [ciw.dists.Deterministic(3),
                                    ciw.dists.Deterministic(2)]}

Esiampl lle mae ond un dosbarth cwsmer:

batching_distributions=[ciw.dists.Deterministic(2),
                        ciw.dists.Deterministic(1)]

baulking_functions

Opsiynol

Geiriadur o ffwythiannau balcio ar gyfer pob dosbarth cwsmer a pob nod. Mae'n disgrifio mecanweithiau balcio cwsmeriaid. Am fwy o wybodaeth gwelwch Sut i Efelychu Cwsmeriaid Sy'n Balcio. Os hepgorwyd, yna ni balciwyd cwsmeriaid.

Esiampl:

baulking_functions={'Class 0': [probability_of_baulking]}

class_change_matrices

Opsiynol

Geiriadur o fatricsau newid dosbarth ar gyfer pob nod. Am fwy o wybodaeth gwelwch Sut i Osod Dosbarthau Cwsmer Deinamig.

Esiampl o rwydwaith dau nod gyda dau ddosbarth cwsmer:

class_change_matrices={'Node 0': [[0.3, 0.4, 0.3],
                                  [0.1, 0.9, 0.0],
                                  [0.5, 0.1, 0.4]],
                       'Node 1': [[1.0, 0.0, 0.0],
                                  [0.4, 0.5, 0.1],
                                  [0.2, 0.2, 0.6]]}

number_of_servers

Angenrheidiol

Rhestr o nifer o weinyddion paralel wrth bob nod. Os ddefnyddir amserlen gweinydd, rhowch yr amserlen yn lle rhif. Am fwy o wybodaeth ar amserlenni gweinyddion, gwelwch Sut i Osod Amserlenni Gweinyddion. Ar gyfer nifer anfeidraidd o weinyddion gall rhoi float('inf').

Esiampl:

number_of_servers=[1, 2, float('inf'), 1, [[1, 10], [2, 15]]]

priority_classes

Opsiynol

Geiriadur sy'n mapio dosbarthau cwsmer i flaenoriaethau. Am fwy o wybodaeth, gwelwch Sut i Osod Blaenoriaethau. Os hepgorwyd, ni ddefnyddir blaenoriaeth, hynny yw mai gan bob cwsmer blaenoriaeth hafal.

Esiampl:

priority_classes={'Class 0': 0,
                  'CLass 1': 1,
                  'Class 2': 1}

Queue_capacities

Opsiynol

Rhestr o gynhwysedd ciw macsimwm wrth bob nod. Os hepgorwyd, y gwerthoedd diofyn yw float('inf') ar gyfer pob nod.

Esiampl:

queue_capacities=[5, float('inf'), float('inf'), 10]

routing

Angenrheidiol ar gyfer mwy nag un nod

Opsiynol ar gyfer un nod

Mae'n disgrifio'r ffordd y mae pob dosbarth cwsmer yn teithio o gwmpas y system. Gall hyn fod yn matrics trosglwyddo ar gyfer pob dosbarth cwsmer, neu ffwythiant teithio ar gyfer efelychiadau wedi'u weilio ar brosesau, gweler Sut i Ddiffinio Trosglwyddiadau wedi Seilio ar Brosesau.

Geiriadur yw hwn gyda dosbarthiadau cwsmer fel allweddau, a rhestr o restrau (matricsau) yn cynnwys y tebygolrwyddau trosglwyddo fel gwerthoedd. Os ond un dosbarth cwsmer sydd angen, mae'n ddigonol rhoi un matrics trosglwyddo yn unig (rhestr o restrau).

Dangosir esiampl:

routing={'Class 0': [[0.1, 0.3],
                     [0.0, 0.8]],
         'Class 1': [[0.0, 1.0],
                     [0.0, 0.0]]}

Esiampl lle mae ond un dosbarth cwsmer:

routing=[[0.5, 0.3],
         [0.2, 0.6]]

Os ddefnyddir un nod yn unig, y gwerth diofyn yw:

routing={'Class 0': [[0.0]]}

Fel arall defnyddiwch ffwythiant teithio:

routing=[routing_function]

service_distributions

Angenrheidiol

Mae'n disgrifio'r dosraniadau gwasanaeth ar gyfer pob nod a pob dosbarth cwsmer. Geiriadur yw hwn gyda dosbarthiadau cwsmer fel allweddau, a rhestrau yn disgrifio dosraniadau gwasanaeth pob nod fel gwerthoedd. Os ond un dosbarth cwsmer sydd angen, mae'n ddigonol rhoi rhestr dosraniadau rhwng-dyfodiad yn unig. Am fwy o wybodaeth ar fewnbynnu dosraniadau, gwelwch Sut i Osod Dosraniadau Dyfodi a Gwasanaeth.

Dangosir esiampl:

service_distributions={'Class 0': [ciw.dists.Exponential(4.4),
                                   ciw.dists.Uniform(0.1, 0.9)],
                       'Class 1': [ciw.dists.Exponential(6.0),
                                   ciw.dists.Lognormal(0.5, 0.6)]}

Esiampl lle mae ond un dosbarth cwsmer:

service_distributions=[ciw.dists.Exponential(4.8),
                       ciw.dists.Exponential(5.2)]