.. _kendall-notation: =============== Nodiant Kendall =============== Defnyddir nodiant Kendall yn i ddynodi system ciwio nod sengl yn llaw-fer [WS09]_. Nodweddwyd ciw gan: .. math:: A/B/C/X/Y/Z lle mae: + :math:`A` yn dynodi dosraniad yr amseroedd rhwng-dyfodiad + :math:`B` yn dynodi dosraniad yr amseroedd gwasanaeth + :math:`C` yn dynodi dosraniad nifer o weinyddion + :math:`X` yn dynodi'r cynhwysedd ciwio + :math:`Y` yn dynodi maint y boblogaeth y cwsmeriaid + :math:`Z` yn dynodi'r ddisgyblaeth ciwio Ar gyfer y paramedrau :math:`A` a :math:`B` mae yna nifer o nodiannau llaw-fer ar gael. Er enghraifft: + :math:`M`: dosraniad Markovaidd neu Esbonyddol + :math:`E`: dosraniad Erlang (achos arbennig o'r dosraniad Gama) + :math:`C_k`: dosraniad Coxaidd o drefn :math:`k` + :math:`D`: dosraniad Penderfynedig + :math:`G` / :math:`GI`: dosraniad Cyffredinol / Cyffredinol annibynnol Mae'r paramedrau :math:`X`, :math:`Y` a :math:`Z` yn opsiynol, a chymerwn yn ganiataol eu bod yn :math:`\infty`, :math:`\infty`, a Cyntaf Mewn Cyntaf Allan (FIFO) yn ôl eu trefn. Opsiynau arall ar gyfer y ddisgyblaeth ciwio :math:`Z` yw SIRO (Gwasanaeth Mewn Trefn Ar Hap), LIFO (Olaf Mewn Cyntaf Allan), a PS (Rhannu Prosesyddion). Rhai enghreifftiau: + :math:`M/M/1`: + Amseroedd rhwng-dyfodiad Esbonyddol + Amseroedd gwasanaeth Esbonyddol + 1 gweinydd + Cynhwysedd ciwio anfeidraidd + Poblogaeth anfeidraidd + Cyntaf mewn cyntaf allan + :math:`M/D/\infty/\infty/1000`: + Amseroedd rhwng-dyfodiad Esbonyddol + Amseroedd gwasanaeth Penderfynol + Nifer anfeidraidd o weinyddion + Cynhwysedd ciwio anfeidraidd + Poblogaeth o 1000 cwsmer + Cyntaf mewn cyntaf allan + :math:`G/G/1/\infty/\infty/\text{SIRO}`: + Amseroedd rhwng-dyfodiad Cyffredinol + Amseroedd gwasanaeth Cyffredinol + 1 gweinydd + Cynhwysedd ciwio anfeidraidd + Poblogaeth anfeidraidd + Gwasanaeth mewn trefn ar hap + :math:`M/M/4/5`: + Amseroedd rhwng-dyfodiad Esbonyddol + Amseroedd gwasanaeth Esbonyddol + 4 gweinydd + Cynhwysedd ciwio o 5 + Poblogaeth anfeidraidd + Cyntaf mewn cyntaf allan