Rhestr Tracwyr Cyflwr¶
Ar hyn o bryd mae gan Ciw y tracwyr cyflwr canlynol:
Y Traciwr SystemPopulation¶
Mae'r traciwr SystemPopulation yn recordio'r nifer o gwsmeriaid yn y system cyfan, heb poeni pa nod y maent ynddo. Mae cyflyrau ar ffurf rhif:
4
Mae hwn yn dynodi bod pedwar cwsmer yn y system.
Mae'r gwrthrych Simulation yn cymryd y ddadl opsiynol tracker
:
>>> Q = ciw.Simulation(N, tracker=ciw.trackers.SystemPopulation())
Y Traciwr NodePopulation¶
Mae'r traciwr NodePopulation yn recordio nifer o gwsmeriaid ym mhob nod. Mae cyflyrau ar ffurf rhestr o rhifau. Mae enghraifft o rhwydwaith ciwio tri nod isod:
(2, 0, 5)
Mae hwn yn dynodi bod dau cwsmer yn y nod cyntaf, dim cwsmer yn yr ail nod, a pump cwsmer yn y trydydd nod.
Mae'r gwrthrych Simulation yn cymryd y ddadl opsiynol tracker
:
>>> Q = ciw.Simulation(N, tracker=ciw.trackers.NodePopulation())
Y Traciwr NodePopulationSubset¶
Mae'r traciwr NodePopulationSubset, yn debyg i'r traciwr NodePopulation, un recordio nifer o gwsmeriaid ym mhob nod. Ond, mae'r traciwr hwn yn eich galluogi i ond tracio is-set o nodau'r system. Mae cyflyrau yn cymryd ffurf rhestr o rhifau. Mae enghraifft o dracio tri nod mewn rhwydwaith ciwio wedi'i ddaqngos isod:
(2, 0, 5)
Mae hwn yn dynodi bod yna dau cwsmer yn y nod cyntaf i'w arsylwi, dim cwsmeriaid yn yr ail nod i'w arsylwi, a phump cwsmer yn y trydydd nod i'w arsylwi.
Mae'r gwrthrych Simulation yn cymryf y ddadl opsiynol tracker
, sy'n cymryd dadl observed_nodes
, rhestr o rhifau nod i'w arsylwi. Caiff ei ddefnyddio fel y ganlyn (yn arsylwi'r nod cyntaf, yr ail, a'r pumed nod):
>>> Q = ciw.Simulation(N, tracker=ciw.trackers.NodePopulationSubset([0, 1, 4]))
Y Traciwr NodeClassMatrix¶
Mae'r traciwr NodeClassPopulation yn recordio'r nifer o gwsmeriaid ym mhob nod, wedi'i sortio gan dosbarth cwsmer. Mae cyflyrau ar ffurf matrics, hynny yw rhestr o restrau, lle mae bod rhes yn dynodi nod a pob colofn yn cynodi dosbarth cwsmer. Dangosir enghraifft o rhwydwaith ciwio tri nod gyda dau dosbarth cwsmer:
((3, 0),
(0, 1),
(4, 1))
- Mae hwn yn dynodi bod:
Tri cwsmer yn y nod cyntaf - tri o Dosbarth 0, a dim o Dosbarth 1
Un cwsmer yn yr ail nod - dim i Dosbarth 0, ac un o Dosbarth 1
Pump cwsmer yn y trydydd nod - pedwar o Dosbarth 0, ac un o Dosbarth 1.
Mae'r gwrthrych Simulation yn cymryd y ddadl opsiynol tracker
:
>>> Q = ciw.Simulation(N, tracker=ciw.trackers.NodeClassMatrix())
Y Traciwr NaiveBlocking¶
Mae'r traciwr NaiveBlocking yn recordio nifer of cwsmeriaid wrth bob nod, a faint o'r cwsmeriaid yna sydd wedi'i flocio'n bresennol. Dangosir enghraifft o rwydwaith ciwio pedwar nod:
((3, 0), (1, 4), (10, 0), (8, 1))
Dynodir hwn 3 cwsmer wrth y nod cyntaf, mae 0 o rain wedi'i flocio; 5 cwsmer wrth yr ail nod, mae 4 o rain wedi'i flocio; 10 cwsmer wrth y trydydd nod, mae 0 o rain wedi'i flocio; a 9 cwsmer wrth y pedwerydd nod, mae 1 o rain wedi'i flocio.
Mae'r gwrthrych Simulation yn cymryd y ddadl opsiynol tracker
:
>>> Q = ciw.Simulation(N, tracker=ciw.trackers.NaiveBlocking())
Y Traciwr MatrixBlocking¶
Mae'r traciwr MatrixBlocking yn cofnodi'r drefn a chyrchfannau'r cwsmeriaid a flociwyd mewn ffyrdd matrics. Wrth ochr hwn cofnodir nifer o gwsmeriaid wrth bob nod. Mae'r gydran gyntaf, matrics, yn rhestru'r cwsmeriaid a flociwyd o'r nod rhes i'r nod colofn. Rhestrau o holl gwsmeriaid a flociwyd o'r math yma yw'r cofnodion, ac mae'r rhifau yn dynodi'r drefn a flociwyd y cwsmeriaid. Dangosir esiampl o rwydwaith pedwar nod:
( ( ( (), (), (), () ),
( (), (1, 4), (), (2) ),
( (), (), (), () ),
( (3), (), (), () ) ),
(3, 5, 10, 9) )
Mae hwn yn cynrychioli:
3 cwsmer wrth y nod cyntaf
5 cwsmer wrth yr ail nod
10 cwsmer wrth y trydydd nod
9 cwsmer wrth y pedwerydd nod
Mae hefyd yn dangos trefn a chyrchfannau’r cwsmeriaid a flociwyd:
Allan o'r holl gwsmeriaid a flociwyd, y cyntaf oedd o nod 2 i nod 2
Yr ail oedd o nod 2 i nod 4
Y trydydd oedd o nod 4 i nod 1
Y pedwerydd oedd o nod 2 i nod 2.
Mae'r gwrthrych Simulation yn cymryd y ddadl opsiynol tracker
:
>>> Q = ciw.Simulation(N, tracker=ciw.trackers.MatrixBlocking())