Nodiant Kendall

Defnyddir nodiant Kendall yn i ddynodi system ciwio nod sengl yn llaw-fer [WS09].

Nodweddwyd ciw gan:

\[A/B/C/X/Y/Z\]

lle mae:

  • \(A\) yn dynodi dosraniad yr amseroedd rhwng-dyfodiad

  • \(B\) yn dynodi dosraniad yr amseroedd gwasanaeth

  • \(C\) yn dynodi dosraniad nifer o weinyddion

  • \(X\) yn dynodi'r cynhwysedd ciwio

  • \(Y\) yn dynodi maint y boblogaeth y cwsmeriaid

  • \(Z\) yn dynodi'r ddisgyblaeth ciwio

Ar gyfer y paramedrau \(A\) a \(B\) mae yna nifer o nodiannau llaw-fer ar gael. Er enghraifft:

  • \(M\): dosraniad Markovaidd neu Esbonyddol

  • \(E\): dosraniad Erlang (achos arbennig o'r dosraniad Gama)

  • \(C_k\): dosraniad Coxaidd o drefn \(k\)

  • \(D\): dosraniad Penderfynedig

  • \(G\) / \(GI\): dosraniad Cyffredinol / Cyffredinol annibynnol

Mae'r paramedrau \(X\), \(Y\) a \(Z\) yn opsiynol, a chymerwn yn ganiataol eu bod yn \(\infty\), \(\infty\), a Cyntaf Mewn Cyntaf Allan (FIFO) yn ôl eu trefn. Opsiynau arall ar gyfer y ddisgyblaeth ciwio \(Z\) yw SIRO (Gwasanaeth Mewn Trefn Ar Hap), LIFO (Olaf Mewn Cyntaf Allan), a PS (Rhannu Prosesyddion).

Rhai enghreifftiau:

  • \(M/M/1\):
    • Amseroedd rhwng-dyfodiad Esbonyddol

    • Amseroedd gwasanaeth Esbonyddol

    • 1 gweinydd

    • Cynhwysedd ciwio anfeidraidd

    • Poblogaeth anfeidraidd

    • Cyntaf mewn cyntaf allan

  • \(M/D/\infty/\infty/1000\):
    • Amseroedd rhwng-dyfodiad Esbonyddol

    • Amseroedd gwasanaeth Penderfynol

    • Nifer anfeidraidd o weinyddion

    • Cynhwysedd ciwio anfeidraidd

    • Poblogaeth o 1000 cwsmer

    • Cyntaf mewn cyntaf allan

  • \(G/G/1/\infty/\infty/\text{SIRO}\):
    • Amseroedd rhwng-dyfodiad Cyffredinol

    • Amseroedd gwasanaeth Cyffredinol

    • 1 gweinydd

    • Cynhwysedd ciwio anfeidraidd

    • Poblogaeth anfeidraidd

    • Gwasanaeth mewn trefn ar hap

  • \(M/M/4/5\):
    • Amseroedd rhwng-dyfodiad Esbonyddol

    • Amseroedd gwasanaeth Esbonyddol

    • 4 gweinydd

    • Cynhwysedd ciwio o 5

    • Poblogaeth anfeidraidd

    • Cyntaf mewn cyntaf allan